Llinell Gymorth Cam-drin yn y Cartref Cymru
Llinell Gymorth Cam-drin yn y Cartref Cymru yw’r gwasanaeth cefnogaeth a gwybodaeth cenedlaethol rhad ac am ddim ar gyfer menywod, plant a dynion yng Nghymru sy’n dioddef neu sydd wedi dioddef cam-drin a/neu drais gan rywun agos atynt.
Mae hefyd yn wasanaeth gwybodaeth i bobl sy’n poeni am rywun maen nhw’n ei adnabod, ac i asiantaethau sydd arnynt angen gwybodaeth ar y gefnogaeth sydd ar gael yng Nghymru i oedolion a phlant.
Nid yw Gweithwyr Cefnogi’r Llinell Gymorth yn feirniadol a byddant yn ymdrin â’ch galwad yn gwbl gyfrinachol.
Os hoffech le diogel i chi – ac efallai eich plant – gael aros, gallwn eich helpu a gallwn hefyd helpu i ddod o hyd i lety lloches ar gyfer menywod yr ydych yn eu cefnogi.
Os mai siarad sydd angen arnoch, byddwn yn gwrando.
Rhadffôn 08 08 80 10 800 yn gyfrinachol, agor 24 awr.
Os hoffech ragor o wybodaeth am y Llinell Gymorth cyn cysylltu, cliciwch yma

