Diogelwch Cyfreithiol
DEDDF GWARCHOD RHAG AFLONYDDU 1997.
Os nad ydych yn gymwys i wneud cais am orchymyn o dan y Ddeddf Cyfraith Teulu am nad ydych yn cael eich ystyried yn ‘berson cysylltiedig’ gallwch weithredu drwy Ddeddf Gwarchod Rhag Aflonyddu 1997. Mae’r Ddeddf hon yn golygu, os ydych yn dioddef aflonyddwch, bygythiadau neu stelcio ar ôl i berthynas fer ddod i ben neu os nad oes gennych unrhyw blant nac wedi byw gyda’r camdriniwr, gallwch gael gwaharddeb droseddol. Mae’r Ddeddf hon yn cynnwys troseddau sifil a throseddol ac yn cynnig opsiynau sifil a throseddol i ddatrys cam-drin yn y cartref.
Troseddol
Yn ôl Deddf Gwarchod rhag Aflonyddu 1997 mae’n drosedd i;
- Achosi aflonyddwch, ofn neu drallod drwy fath o ymddygiad - mwy nag unwaith a gall ymddygiad gynnwys iaith.
- Achosi ofn o drais - o leiaf ddwywaith.
Sifil
Mae Deddf Gwarchod rhag Aflonyddu hefyd yn cynnwys mesur sifil i ymdrin ag aflonyddu. Mae’r waharddeb sifil hon yn darparu ffordd arall o ddiogelu a’r hawl i dderbyn iawndal pan na fydd y gosb droseddol ar gael. Er enghraifft, os nad oedd tystiolaeth ddigonol i fodloni safon droseddol prawf neu am fod y dystiolaeth yn dangos y caiff trosedd ei chyflawni os na rwystrir y diffynnydd gyda gwaharddeb.
Opsiynau
Yn ôl y Ddeddf gall y Llys orchymyn ‘gorchymyn atal’. Gorchymyn yw ‘gorchymyn atal’ sy’n gwahardd y diffynnydd rhag gwneud pethau penodol am gyfnod amser penodol. Er enghraifft, gallai’r llys orchymyn bod y diffynnydd byth yn cysylltu â chi eto nac yn ceisio cysylltu â chi, neu ei orchymyn i beidio â mynd ar heol benodol neu i ardal benodol. Gellir cael gorchmynion atal drwy’r llys sifil neu drosedd.
O dan y Ddeddf Gwarchod rhag Aflonyddu mae torri gorchymyn atal o’r fath yn drosedd gyda chosb yn y llys ynadon hyd at 6 mis o garchar a/neu dros £5000 o ddirwy, neu yn llys y goron gellir rhoi hyd at 5 mlynedd o garchar. Ar ben y cosbau troseddol, gall y llys sifil ddyfarnu iawndal i chi am yr aflonyddwch.
Mae’r Ddeddf Troseddau a Dioddefwyr Cam-drin yn y Cartref 2004 ddiweddar yn galluogi’r llys i roi gorchymyn atal pan gyhuddir y diffynnydd o drosedd, wrth iddo aros am ei dreial, wrth ddedfrydu am unrhyw drosedd neu pan ddyfarnir ef yn ddieuog ond cred y llys ei fod yn angenrheidiol rhoi gorchymyn i’ch diogelu chi rhag aflonyddwch.
Bydd y llys yn rhoi gorchymyn atal pan geir digon o dystiolaeth o aflonyddwch a phan fydd yn angenrheidiol eich diogelu chi rhag y perygl hwnnw o aflonyddwch yn y dyfodol.

