Codi Ymwybyddiaeth
Os credwch y gallwch helpu i godi ymwybyddiaeth ynghylch Cam-drin yn y Cartref a gwaith Cymorth i Fenywod Cymru gallwch wneud unrhyw un o’r canlynol:
- Arddangos posteri a thaflenni am waith Cymorth i Fenywod Cymru a rhif ffôn Llinell Gymorth Cam-drin yn y Cartref Cymru
- Trefnu bod siaradwr o Gymorth i Fenywod Cymru’n dod i siarad â’ch sefydliad /ysgol/grŵp am Gam-drin yn y Cartref
- Trefnu hyfforddiant ymwybyddiaeth Cam-drin yn y Cartref a hyfforddiant Amddiffyn Plant arbenigol gyda Chymorth i Fenywod Cymru
- Gweithredu Polisi Cam-drin yn y Cartref yn eich gweithle. Mae templed ar gael fel adnodd isod
I gysylltu â Chymorth i Fenywod Cymru ynghylch unrhyw un o’r uchod cliciwch yma.

