Trais, camdriniaeth, bwlio: stori heb ei dweud am bobl anabl yn byw yng Nghymru
15 Gorff 2010
Annwyl Gydweithiwr,
Hoffem dynnu’ch sylw at ddarn hanfodol o waith rydym yn ymgymryd ag ef ar hyn o bryd. Rydym yn defnyddio’n pwerau cyfreithiol i gynnal Ymchwiliad Ffurfiol i archwilio sut mae awdurdodau cyhoeddus yn rhoi cymorth, neu beidio, i bobl anabl, eu teuluoedd, ffrindiau a gofalwyr sydd wedi profi aflonyddu. (Ynghlwm mae’r datganiad i’r wasg a gyhoeddwyd gennym).
Cymryd Rhan
Rydym yn gofyn ar bobl anabl i ddweud wrthym am y gamdriniaeth a’r trais ar sail anabledd y maen nhw wedi ei brofi yn eu bywydau bob dydd.
Ewch i’r ddolen gyswllt ganlynol i lawr lwytho copi o’r holiadur i bobl anabl, ffrindiau, teuluoedd a chymdeithion: www.equalityhumanrights.com/legislative-framework/formal-inquiries/inquiry-into-disability-related-harassment/call-for-evidence/#individuals href="http://www.equalityhumanrights.com/legislative-framework/formal-inquiries/inquiry-into-disability-related-harassment/call-for-evidence/#individuals">http://www.equalityhumanrights.com/legislative-framework/formal-inquiries/inquiry-into-disability-related-harassment/call-for-evidence/#individuals
Rydym yn gofyn ar sefydliadau ac awdurdodau cyhoeddus i ddweud wrthym sut y maen nhw’n ymateb i aflonyddu ar sail anabledd. Mae hyn yn cynnwys:
- Sefydliadau o bobl sy’n fyddar neu’n anabl a sefydliadau dros bobl sy’n fyddar neu’n anabl, gan gynnwys y rheiny â chyflyrau iechyd meddwl neu gyflyrau iechyd hir dymor.
- Sefydliadau sydd â chyswllt â phobl sy wedi profi aflonyddu ar sail anabledd fel asiantaethau cyngor, llochesau a sefydliadau sy’n cynnig cymorth i ddioddefwyr trosedd
- Awdurdodau cyhoeddus
- Gweithredwyr trafnidiaeth gyhoeddus
- Academyddion
- Unigolion â gwybodaeth a phrofiad o’r mater hwn.
Ewch i’r ddolen gyswllt ganlynol i lawr lwytho copi o’r ffurflen Galwad am Dystiolaeth ar gyfer sefydliadau: www.equalityhumanrights.com/legislative-framework/formal-inquiries/inquiry-into-disability-related-harassment/call-for-evidence/ href="http://www.equalityhumanrights.com/legislative-framework/formal-inquiries/inquiry-into-disability-related-harassment/call-for-evidence/">http://www.equalityhumanrights.com/legislative-framework/formal-inquiries/inquiry-into-disability-related-harassment/call-for-evidence/
Y terfyn amser am roi tystiolaeth yw dydd Gwener 10 Medi 2010
Rydym yn annog pawb i ymweld â’n gwefan <www.equalityhumanrights.com/legislative-framework/formal-inquiries/inquiry-into-disability-related-harassment/ href="http://www.equalityhumanrights.com/legislative-framework/formal-inquiries/inquiry-into-disability-related-harassment/">http://www.equalityhumanrights.com/legislative-framework/formal-inquiries/inquiry-into-disability-related-harassment/> a chymryd rhan yn yr Ymchwiliad hwn sy’n torri cwys newydd. Hefyd, wnewch chi anfon yr e-bost hwn at eich rhwydweithiau ac annog eraill i gymryd rhan a’n helpu i gasglu tystiolaeth ardderchog o Gymru.
Hefyd, rydym yn cynnal diwrnod Ymchwiliad ar Aflonyddu ar sail Anabledd dydd Mercher 4 Awst yn ein stondin yn yr Eisteddfod Genedlaethol (Glyn Ebwy) . Os yw’n gyfleus i chi, dewch i ymweld â’n stondin.
Am wybodaeth bellach fy nghyfeiriad e-bost yw Bailjit.gill@equalityhumanrights.com, neu ffoniwch 029 20447710.
Llawer o ddiolch

