DIWRNOD MENYWOD RHYNGWLADOL 2010
03 Tachwedd 09
Mae Clymblaid Genedlaethol Menywod Cymru yn eich gwahodd i gystadlu yn ein digwyddiad Diwrnod Rhyngwladol Menywod ar gyfer 2010.
Byddwn yn cyhoeddi blodeugerdd fer o farddoniaeth a rhyddiaith greadigol i ddathlu menywod dan y teitl ‘Llais Menywod yng Nghymru’.
Bydd ein panel o feirniaid uchel eu parch yn dewis ymgeisiadau a fydd yn cael eu cynnwys yn y flodeugerdd, ac fe’i chyhoeddir ym mis Mawrth 2010.
Y panel yw;
- Shelagh Weeks
- Jeni Williams
- Jo Verity
- Sarah Edmonds
- Menna Elfyn
Croesawyr ymgeisiadau yn Gymraeg a Saesneg.
* Gweler tudalen 2 am ragor o wybodaeth ynglŷn â’r panel.
Mae hyn yn gyfle gwych i gystadleuwyr wneud mynegiad cyhoeddus ac i weld eu gwaith wedi eu hargraffu.
Rhaid i gystadleuwyr fod yn:
- Fenywod o Gymru neu sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd
- 16-116 mlwydd oed
Ni ddylai rhyddiaith greadigol fod yn fwy na 750 o eiriau, ac ni ddylai barddoniaeth fod yn hirach na 30 llinell.
Dyddiad cau ar gyfer ymgeisiadau yw 31/12/09.
Byddai’n well gennym dderbyn ceisiadau trwy e-bost ar Llinos Merriman.
Fel arall, gall copïau gael eu hanfon at Glymblaid Genedlaethol Menywod Cymru, Llys Angor,
Bydd y beirniadu yn digwydd ym mis Ionawr 2010, hysbysir pob cystadleuydd.
Edrychwn ymlaen at dderbyn eich cais!
Gwybodaeth pellach

